Gorffennaf 2025

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Fel rhan o'r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd a ariennir gan The National Lottery Heritage Fund, rydym yn gwneud rhywfaint o waith teneuo hanfodol i amrywio strwythur oedran y coetir yn Nhreborth. Sylwch ar arwyddion diogelwch a dargyfeiriadau.

.

Gardd Fotaneg Treborth CGC Gerddi Agored i Eluse

Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Amser:
Dydd Sul 13 Gorffennaf 2025, 14:00–17:00
 
 
Diwrnod Agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol
 
Rydym yn agor Gardd Fotaneg Treborth eleni fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS) a byddwn yn codi tâl mynediad bach i gefnogi elusennau'r NGS, gan gynnwys The Queen’s Nursing Institute, Macmillan Cancer Support, Marie Curie, Carers Trust, Hospice UK, Perennial a Parkinson’s.
 
Bydd planhigion ar werth a the a chacennau cartref. Bydd y tai gwydr yn agored gyda staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau botanegol.
 
Rydym hefyd yn agor ein Gardd Lysieuol Gymreig newydd yn ffurfiol, gan groesawu staff o'n Hysgol Feddygol a'r dylunydd gardd Nicola Oakey.
 
Archebwch eich tocynnau gan ddefnyddio'r cyswllt hwn 
 
Cost: £4 i oedolion, plant am ddim.
 
Parcio am ddim ar y safle
 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at treborth@bangor.ac.uk