Fel rhan o'r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd a ariennir gan The National Lottery Heritage Fund, rydym yn gwneud rhywfaint o waith teneuo hanfodol i amrywio strwythur oedran y coetir yn Nhreborth. Sylwch ar arwyddion diogelwch a dargyfeiriadau.
.
Darlith Goffa Len Beer: ‘One Thousand Shades of Green: A Year in Search of Britain's Wild Plants’ yn cael ei thraddodi gan Mike Dilger
Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth
- Lleoliad:
- Darlithfa Eric Sutherland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor,
- Amser:
- Dydd Iau 13 Mawrth 2025, 19:30–21:00
- Cyswllt:
- treborthevents@outlook.com
Gan edrych ar ganol dinasoedd, copaon mynyddoedd a phob cynefin posibl rhyngddynt, roedd blwyddyn fotaneg fawr Mike nid yn unig yn gyfle i ddathlu harddwch, amrywiaeth a phrinder planhigion y genedl, ond hefyd i asesu sut mae ein fflora hynod ddiddorol yn dod ymlaen ym Mhrydain fodern.
Wrth ymgymryd â’r her, roedd Mike yn meddwl i ddechrau y byddai chwilio am blanhigion yn weithgaredd ysgafn, ond, ac yntau â dim ond planhigion ar ei feddwl, llwyddodd rhywsut i fentro’i fywyd yn ystod ei ymgais i chwilio’n daer am bopeth gwyrdd. Ysgrifennodd lyfr am ei anturiaethau, One Thousand Shades of Green.
Mae'n dod i siarad â ni am yr ymchwil, ynghyd â hanesion ei yrfa fel cyflwynydd teledu a gwneuthurwr ffilmiau bywyd gwyllt.
Pris tocyn: £8 ynghyd â ffi archebu i aelodau FTBG neu AGS (defnyddiwch friendsoftreborthbotanicgarden@outlook.com i ofyn am god disgownt);
£10 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.
Archebwch trwy gyswllt Eventbrite: Sgwrs Mike Dilger