Medi 2021

SuLlMaMeIGSa
1234
567891011
12131415161718
19202122232425
2627282930

CGC Gerddi Agored i Eluse

Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Lleoliad:
Gardd Fotaneg Treborth
Amser:
Dydd Sadwrn 11 Medi 2021, 10:00–13:00
Cyswllt:
treborth@bangor.ac.uk

Diwrnod Agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol

 

Rydym yn agor Gardd Fotaneg Treborth eleni fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS) a byddwn yn codi tâl mynediad bach i gefnogi elusennau'r NGS, gan gynnwys The Queen’s Nursing Institute, Macmillan Cancer Support, Marie Curie, Carers Trust, Hospice UK, Perennial a Parkinson’s. 

Bydd planhigion ar werth a the a chacennau cartref. Bydd y tai gwydr yn agored gyda staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau botanegol.

Eleni byddwn yn gweithredu system archebu i sicrhau na fydd yr ardd yn gorlenwi. Bydd yr ardd yn agored rhwng 10am ac 1pm a gallwch archebu slot. 

Archebwch eich tocynnau gan ddefnyddio'r cyswllt hwn  https://ngs.org.uk/view-garden/35006                    

Cost: £4 i oedolion, plant am ddim.

Parcio am ddim ar y safle   

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at treborth@bangor.ac.uk