Mai 2022

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

Arwerthiant Planhigion y Gwanwyn

Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Lleoliad:
Gardd Fotaneg Treborth
Amser:
Dydd Sadwrn 28 Mai 2022, 10:00–13:00
Cyswllt:
treborthevents@outlook.com

Arwerthiant Planhigion y Gwanwyn

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n harwerthiant planhigion y gwanwyn, a gynhelir ym mis Mai 2022!

Byddwn yn agor oddeutu 11 y bore, gydag agoriad ymlaen llaw o 10 y bore i Gyfeillion Gardd Fotanegol Treborth sydd wedi archebu lle (bydd aelodau'n derbyn e-bost gyda manylion).

Mae'r holl blanhigion wedi eu tyfu gan Gyfeillion a garddwriaethwyr Gardd Fotaneg Treborth. Bydd gennym ddetholiad eang o blanhigion ar gael trwy gydol y bore.

- Eginblanhigion llysiau a pherlysiau (gan gynnwys mathau anarferol)
- Planhigion unflwydd a lluosflwydd
- Planhigion cigysol
- Tegeirianau
- Cacti a phlanhigion suddlon
- Planhigion tŷ
- Coed a llwyni gan gynnwys rhosod

Eitemau eraill ar werth:
- Diodydd poeth, bwydydd sawrus a chacennau
- Cacennau wedi eu lapio.
- Jamiau a siytni ffres.
- Cardiau rhodd botanegol wedi'u gwneud â llaw.
- Bydd detholiad o fusnesau lleol talentog yn cynnal eu stondinau eu hunain yn gwerthu cynnyrch lleol a chynnyrch a wnaed â llaw.

Bydd dau le talu â cherdyn a man talu ag arian parod. Ceisiwch roi'r swm cywir o arian rhag gorfod cael newid.

Parcio am ddim a thoiledau ar gael.