Mawrth 2022

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

MAE'R DIGWYDDIAD HWN WEDI'I ARCHEBU'N LLAWN - Dod i Adnabod Planhigion - Cyflwyniad i Fyd y Planhigion

Tyfu’r Dyfodol

Lleoliad:
Gardd Fotaneg Treborth
Amser:
Dydd Sul 6 Mawrth 2022, 10:00–14:00
Cyswllt:
treborth@bangor.ac.uk

MAE'R DIGWYDDIAD HWN WEDI'I ARCHEBU'N LLAWN

Bydd y gweithdy yn rhoi cyflwyniad i chi i fyd rhyfeddol planhigion gyda Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth 

Yn ystod y gweithdy, byddwch yn dysgu hanfodion dosbarthiad ac enwau planhigion, yn ogystal â chael cyflwyniad i fyd y ffyngau! Cynhelir y gweithdy yn ein lleoliad hardd gyda digonedd o adnoddau ac enghreifftiau i’w hastudio yn ein gerddi a’n tai gwydr sydd wedi eu cynllunio gan arbenigwyr.

Cewch gyfle i weld ein cigysyddion egsotig, tegeirianau a sbesimenau rhyfedd a rhyfeddol eraill.

Gweithdy hanner diwrnod i'w fwynhau gyda ffrindiau a theulu neu gyfle i gwrdd â phobl o'r un anian. Sylwer nad yw'r gweithgaredd hwn yn addas i blant bach.

Mae hwn yn DDIGWYDDIAD AM DDIM, ond anfonwch e-bost i treborth@bangor.ac.uk am le (dim ond 12 lle sydd ar gael)

Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o broject Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Treborth.