Rhwyddineb Mynediad

Gall defnyddwyr cadair olwyn fynd i'r rhan fwyaf o'r ardd sydd yn yr awyr agored pan fo'r gwair yn sych (gofynnwch i'r staff am gyngor). Mae arwyneb i'r llwybr drwy'r coetir ac mae'n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn. Mynediad cyfyngedig sydd i ddefnyddwyr cadair olwyn i'r tai gwydr.

Nid yw'r toiled yn cynnwys pob cyfarpar ar gyfer defnyddwyr anabl ond mae yno ganllaw ac mae'r toiled yn ddigon mawr i ofalwr helpu rhywun anabl.