Adnoddau Addysgol

Addysg brifysgol

Mae casgliadau cyfoethog Treborth o blanhigion o bob cwr o’r byd, sy'n cael eu cynnal mewn amodau tymherus a throfannol, yn cynnig cyfleuster heb ei ail yng Ngogledd Cymru ar gyfer addysg ffurfiol ac anffurfiol am y byd naturiol, yn defnyddio deunydd egnïol, byw.

Mae'r Ardd yn cael ei defnyddio trwy gydol yr wythnos waith i gyflwyno rhaglenni hyfforddi ffurfiol, academaidd, yn cynnwys darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a phrofion/arholiadau i fyfyrwyr o dair Ysgol y Coleg Gwyddorau Naturiol, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Mae projectau i fyfyrwyr israddedig 3edd flwyddyn a myfyrwyr gradd Meistr a PhD (doethurol) hefyd yn cael eu cynnal a'u goruchwylio o Dreborth. Mae grantiau'n cael eu denu i'r Ardd i atodi'r cyllid sydd ar gael i brojectau o'r fath, fel bod modd i fyfyrwyr weithredu’n gadwraethol a rheoli adnoddau naturiol mewn modd sy'n berthnasol yn lleol fel rhan o'u rhaglenni academaidd.

Ysgolion ac addysg gyhoeddus

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn cynnal rhaglen gref o weithgareddau maes addysgol ac o gyd-weithio gyda'r gymuned leol. Yn flynyddol, bydd yn cynnal teithiau maes, gweithdai addysgol dros yr wythnos waith ac ar benwythnosau, gweithdai addysgol, seminarau arbenigol a sesiynau hyfforddiant technegol, a digwyddiadau cymdeithasol i dros gant o sefydliadau a chymdeithasau lleol.

Mae'r buddiolwyr yn cynnwys ysgolion, colegau addysg bellach, cymdeithasau a chlybiau gerddi, ysgolion coedwigoedd, geidiau a brownis, grwpiau adar a mamaliaid, cymdeithasau sifig, cymdeithasau gwyddonol a phroffesiynol, ymddiriedolaethau cadwraeth, mudiadau gwasanaeth dynion a merched, clybiau camera, grwpiau celf, cerddoriaeth a barddoniaeth, clybiau ymddeoliad, grwpiau ymwybyddiaeth ofalgar, grwpiau drama, grwpiau anghenion arbennig ac anabledd, digwyddiadau radio a theledu, a chyfarfodydd awdurdodau lleol, asiantaethau llywodraeth leol a mudiadau rhyngwladol (e.e. UNESCO).

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r ardd at ddibenion addysgol, cysylltwch â ni.

Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth (STAG)

Sefydlwyd Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth (STAG) yn 2006 a byddwn yn cwrdd yn yr ardd i helpu gyda phob agwedd ar ei chynnal: hadu, plannu, tocio, chwynnu, cynnal y pyllau a'r coetir a gwella'r ardd ym mhob ffordd. Pan na fyddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r planhigion byddwn yn datblygu cysylltiadau gyda gerddi botanegol eraill ac yn trefnu teithiau (yn fwyaf diweddar i Ardd Fotaneg Frenhinol Caeredin a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru), yn fforio am ffyngau, yn chwilota am ystlumod ac yn gyffredinol yn gwneud y gorau o'r adnoddau cyfoethog ac amrywiol a gynigir gan Dreborth.

Rydym bob amser ar alw i gynorthwyo Cyfeillion Treborth gyda threfnu eu digwyddiadau cyhoeddus niferus. Mae digwyddiadau fel arwerthiannau planhigion mor boblogaidd ein bod yn cael ein galw arnom i stiwardio parcio ceir ac i helpu i gario eitemau trwm i geir cwsmeriaid. Yn ogystal â chynnal partïon gwaith rheolaidd yn yr ardd, mae'r Grŵp yn cynnal gweithdai ecolegol a botanegol rheolaidd, gwibdeithiau a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Gwnaeth holl waith caled ein haelodau arwain at ennill gwobrau Cymdeithas y Flwyddyn 2015 a Chymdeithas Academaidd y Flwyddyn yn 2012. Rydym yn falch iawn o'r llwyddiannau yma!

I gael y newyddion diweddaraf dilynwch