Ymchwil

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn gartref i amrywiaeth o adnoddau ar gyfer ymchwil ar draws ystod o ddisgyblaethau.

Cynrychiolir pob adran o rywogaeth planhigion yn yr Ardd, yn cynnwys algâu'r môr a dŵr croyw, llysiau'r afu, cyrnddail a mwsogl, rhedyn a rhywogaethau cysylltiedig, conwydd a phlanhigion blodeuol, yn ogystal â llawer o ffyngau a chennau. Mae'r casgliad coed (“Arboretum”) yn cael ei ddatblygu i ddangos dilyniant sefydlu rhywogaethau coediog ym Mhrydain yn dilyn Oes yr Iâ. Cynrychiolir y rhan fwyaf o'r prif fathau o deuluoedd planhigion blodeuol gan sbesimenau cynhenid neu sbesimenau trin yn Nhreborth. Tyfir planhigion naill ai yn yr awyr agored yn yr Ardd, neu mewn tai gwydr sy'n cael eu cynnal mewn amodau tymherus claear, cynnes-dymherus a throfannol.

Mae gerddi Treborth, gyda'u glaswelltir brodorol, coetir aeddfed, cynefinoedd dŵr croyw a morol yn ddiogel a hygyrch, ac yn derbyn cefnogaeth cyfleusterau labordy a thŷ gwydr, i astudio bioamrywiaeth a phrosesau ecolegol. Mae'r coetir yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gyda chytundeb rheolaeth “Glastir” y Llywodraeth, ac mae'r llieiniau glaswelltir dôl hefyd yn cynnig cyfle rhagorol i fonitro cyfundrefnau rheoli adnoddau naturiol. Trefnir cyfleoedd neilltuol i astudio poblogaeth wiwerod coch brodorol yr Ardd a'i chytref crehyrod, ac mae ymchwiliadau tymor hir wedi cael eu cynnal o wyfynod nos ac amrywiaeth ffwngaidd, ac o ymddygiad dychwel adar yn yr Ardd.

Mae'r casgliadau tu allan yn cynnwys gwelyau o flodau o bob cwr o'r byd, yn cynnwys gardd o blanhigion meddyginiaethol Tsieineaidd a fydd yn cael ei hategu gan ardd yn arddangos y traddodiad Cymreig o feddyginiaethau llysieuol. Mae perllan fach, goror gloÿnnod byw, pwll trochi, safle coedwig i ysgolion a maes rhandir yn ychwanegu at y posibiliadau ar gyfer astudiaethau ymchwil. Mae'r casgliadau dan do yn cynnwys tai gwydr arbenigol ar gyfer rhywogaethau trofannol megis bananas, planhigion cigysol, planhigion suddlon anialdiroedd a chacti, a llawer o gynrychiolwyr o'r teulu mwyaf o blanhigion blodeuol - y tegeirianau. Cynhwysir rhywogaethau yn cynrychioli gwahanol fïomau'r byd, ynghyd â llawer o enghreifftiau o gnydau a phlanhigion economaidd.

Rhizotron (labordy dan ddaear i ddal carbon)

Yn 2010 rhoddwyd grant hael i ni gan Sefydliad Wolfson i adnewyddu'r Rhizotron yn yr Ardd a chaniatáu i ni greu labordy carbon tanddaearol â'r cyfleusterau diweddaraf (Labordy Carbon Tanddaearol Wolfson neu'r ‘Rhizotron’). Mae'r gwaith adnewyddu hwn wedi creu cyfleuster unigryw a model sy'n caniatáu astudiaethau manwl ar storio carbon mewn pridd ar ryngwyneb gwreiddiau a phridd.

Gall y labordy unwaith eto wasanaethu fel cyfleuster nodedig cenedlaethol a rhoi cyfleoedd ymchwil unigryw i ymchwilwyr prifysgol a'u cydweithwyr.

Ymchwil gyfredol yn y Rhizotron

Mae ymchwil yn cael ei wneud yn y Rhizotron! Mae Relena yn fyfyriwr PhD sy'n astudio'r berthynas rhwng coed a blennir mewn fforestydd cymysg a fforestydd un rhywogaeth. Mae wedi plannu mini-fforestydd yn y Rhizotron i weld a oes gan fforestydd rhywogaethau cymysg fanteision penodol o ran twf a datblygiad coed uwchben ac o dan y ddaear.

Bwriad y project hwn yw darparu data ar y cwestiynau ymchwil canlynol:

  1. Ydy coed yn tyfu'n fwy ac yn dalach pan y'u plennir gyda gwahanol rywogaethau, ynteu ar ben eu hunain?
  2. A ydy gwreiddiau coed yn tyfu'n ddyfnach ac yn hirach pan y'u plennir gyda gwahanol rywogaethau, ynteu ar ben eu hunain?
  3. Ydy cymunedau pridd yn amrywio o fewn mini-fforestydd rhywogaeth sengl o'u cymharu â mini fforestydd aml-rywogaeth?

Mae gan Relena ddiddordeb hefyd mewn edrych ar yr un cwestiynau mewn fforestydd sydd wedi bod yn datblygu ers dros 40 blynedd mewn safleoedd rhywogaeth sengl a rhywogaethau cymysg. Dewisodd bedair rhywogaeth o goed ar gyfer yr arbrawf Rhizotron, ac mae'r cymysgiadau hyn yn efelychu fforestydd go iawn lle bu'n cynnal arbrofion dros y 2 flynedd ddiwethaf.

Plannodd Relena ffynidwydd Douglas (Pseudotsuga taxifolia) a gwern goch (Alnus rubra) mewn baeau pridd rhywogaeth sengl a rhywogaethau cymysg. Hefyd plannodd dderw cyffredin (Quercus robur) a masarn (Acer pseudoplatanus) mewn baeau pridd rhywogaeth sengl a rhywogaethau cymysg. Mae wedi bod yn monitro'r coed a'u tyfiant dros y 2 flynedd ddiwethaf, ac yn cymryd samplau o'r priddoedd sy'n datblygu o dan y mini-fforestydd yn rheolaidd, i weld os a sut mae nodweddion ffisegol a chemegol pridd yn gwahaniaethu ymysg baeau pridd. Agwedd arall gyffrous ar ei gwaith yw archwilio strwythur a swyddogaeth cymunedau microbaidd y pridd (ffyngau, bacteria, ac archaea), i weld a oes gwahanol gymunedau yn datblygu o dan y gwahanol rywogaethau coed.

Galwch draw i ddweud helo, y tro nesaf y byddwch yn ei gweld yn y Rhizotron!
Relena Ribbons rribbons@gmail.com