Herbariwm

Herbarium

Mae'r Herbariwm yn Nhreborth dan ofal yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd. Yn 2014, dyfarnwyd grant i Ardd Fotaneg Treborth gan Gronfa Bangor i wneud archwiliad hanfodol o'i chasgliad (c. 30,000+ sbesimenau byd-eang), ac wrth wneud hynny creu cronfa ddata dwyieithog o'r casgliad, fel y gellir gweld data a delweddau digidol o ansawdd uchel ar-lein.

Cynorthwywyd hyn gan gymorth hael Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin sydd wedi rhoi sganiwr ar fenthyg i'r herbariwm i gynorthwyo gyda digideiddio'r sbesimenau.

Er bod y casgliad yn cynnwys sbesimenau o bob cwr o'r byd, mae llawer iawn o fflora Gogledd (Orllewin) Cymru, yn cynnwys sbesimenau fel Gagea serotina (Lili'r Wyddfa) a Tuberaria guttata cor-rosyn rhuddfannog.